Yn ychwanegol at Raglen Hyfforddi, Prosiectau a Phartneriaethau mae Youth Cymru yn cynnig Gwasanaeth Achredu. Fel canolfan gofrestredig ar gyfer Agored Cymru rydym yn gallu cynnig cyfle i'n partneriaid ein Cwricwlwm Agored Cymru. Mae'r gwasanaeth hwn yn rhoi cyfle i bartneriaid achredu'r dysgu, addysgu a hyfforddi maent yn cyflawni ar hyn o bryd yn ogystal â darparu mynediad at gefnogaeth ymgynghorol Youth Cymru i ddatblygu cyfleoedd achredu yn y dyfodol. Mae'r Gwasanaeth Achredu'r Youth Cymru, yn cynnwys cefnogaeth ymgynghorol i nodi'r achrediad mwyaf priodol; cyngor asesu datblygiad, cefnogaeth sicrhau ansawdd a rheoli ardystio. Drwy ei Wasanaeth Achredu, mae Youth Cymru yn anelu at alluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i ddarparu hyfforddiant achrededig, addysgu a dysgu, a thrwy hynny roi cyfle iddynt ennill cydnabyddiaeth o'u hymrwymiad i gyfleoedd achrededig sicrwydd ansawdd sy'n galluogi ac yn cydnabod cyflawniadau eu dysgwyr Mae ein Gwasanaeth Achredu yn sicrhau bod yr addysgu a'r dysgu a gynigir gan bartneriaid yn bodloni safonau ansawdd Agored Cymru ac yn ehangu mynediad at achrediad ac ardystio ymysg ein holl aelodau. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni. Julia Griffiths Rheolwraig Hyddorddiant a Achrediad